Pa bryd wnaethoch chi brofi eich larwm tân ddiwethaf?
Mae Gwasanaeth tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig larwm mwg a gwasanaeth i'w osod AM DDIM. Bydd yr archwiliad diogelwch tân yn y cartref yma'n eich cadw'n ddiogel rhag tân.
Mae ystadegau'n dangos eich bod chi chwe gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych larwm mwg. Allwch chi fforddio cymryd y risg?
Mae'r ymweliad i gynnal archwiliad diogelwch tân yn y cartref AM DDIM yn cymryd tua 20 munud ac fe'i trefnir ar amser cyfleus i chi. Bydd staff hyfforddedig y gwasanaeth tân ac achub, sy'n cario cerdyn adnabod bob amser, yn:
- Cyflenwi ac yn gosod larymau mwg i achub bywydau yn eich cartref neu yn sicrhau fod y larymau sydd gennych yn barod yn gweithio'n iawn
- Darparu cyngor ynglyn â sut i gadw eich cartref yn ddiogel rhag tân
- Eich helpu i baratoi cynllun dianc er mwyn i chi a'ch teulu allu gadael yr eiddo pe digwyddai tân
- Darparu offer arbenigol ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw
- Cyfnewid eich sosban sglodion hen ffasiwn am ffriwr saim dwfn wedi ei reoli gyda thermostat a rhoi isflanced wlanog i'w defnyddio yn lle blanced drydan
Mae'r uchod i gyd AM DDIM, a'r cyfan sydd angen ei wneud yw:
- Llenwi'r ffurflen hon ar y we
- Ein ffonio ni ar 0800 169 1234 unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos i gofrestru
- E-bostiwch ni ar dtc@nwales-fireservice.org.uk
Gallai gweithredu heddiw olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Dywedodd Richard Fairhead, Uwch Reolwr Diogelwch tân gyda Gwasanaeth tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym wedi gweld y dinistr y gall tanau ei achosi ac rydym yn gwybod y gallai ychydig o gamau syml fod wedi atal nifer o drasiedïau. Peidiwch â gadael i drasiedi daro'ch teulu chi - rhwystrwch y tân rhag cychwyn yn y lle cyntaf."
Am ragor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ddiogelwch rhag tân, ewch i wefan Gwasanaeth tân ac Achub Gogledd Cymru.